Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 23 Tachwedd 2017
Amser:
09.01 -
14.36
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4428
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Simon Thomas AC (Cadeirydd) Neil Hamilton AC Mike Hedges AC Jane Hutt AC Steffan Lewis AC Nick Ramsay AC David Rees AC |
Tystion: |
Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ar gyfer Cymru Kate Carr, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ar gyfer Cymru Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid Margaret Davies, Llywodraeth Cymru Andrew Jeffreys, Dirprwy Gyfarwyddwr, Buddsoddi Cyfalaf Strategol, Llywodraeth Cymru Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Tai ac Adfywio Ian Williams, Llywodraeth Cymru Ian Walters, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Georgina Owen (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) Gareth David Thomas (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Croesawodd y Cadeirydd Jane Hutt AC fel aelod parhaol o'r Pwyllgor.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, a Kate Carr, Cyfarwyddwr Partneriaethau, Ymgysylltu a Chyfathrebu, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19.
3.2 Cytunodd y Comisiynydd i roi rhagor o fanylion i'r Pwyllgor am ei hadborth mewn perthynas â chynlluniau peilot cyllidebu cyfranogol Llywodraeth Cymru.
4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru; a Margaret Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllidebu Strategol, ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19.
4.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am faint y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn o ran cyllid canlyniadol Barnett a'r lluosydd y cytunwyd arno yn y fframwaith ariannol, o ganlyniad i gyhoeddiadau cyllideb Llywodraeth y DU.
5.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio; Ian Williams, Llywodraeth Cymru; ac Ian Walters, Llywodraeth Cymru, ynghylch Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru).
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.